SL(5)216 – Gorchymyn Cynllun Digolledu a Chynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2018

Cefndir a Diben

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio:

·         Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (sydd wedi’i nodi yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 - SI 1992/129 fel y'i diwygiwyd, fel y mae’n cael effaith yng Nghymru) ("Cynllun 1992");   

·         Gorchymyn Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (sydd wedi’i nodi yn Atodlen 1 i Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 – SI 2007/1072, fel y'i diwygiwyd) ("Gorchymyn 2007");

·         Cynllun Digolledu y Diffoddwyr Tân (Cymru) (sydd wedi’i nodi yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 – SI 2007/1073, fel y'i diwygiwyd) ("Cynllun Digolledu 2007"); a

·         Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) 2016 – SI 2016/1136. 

 

Mae Cynllun 1992 a Chynllun Digolledu 2007 ar hyn o bryd yn darparu bod unrhyw bartner sy'n goroesi yn colli ei hawl i fuddion goroeswyr drwy ailbriodi neu ffurfio partneriaeth sifil newydd. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r darpariaethau penodol hyn i ganiatáu i briod neu bartner sifil sy'n goroesi diffoddwr tân sy'n marw neu sydd wedi marw o anaf a dderbyniwyd wrth arfer dyletswydd, neu wrth deithio i ddyletswydd neu'n ôl, gadw ei hawl i fuddion goroeswyr os bydd yn ailbriodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil ar 1 Ebrill 2015 neu wedi hynny.  Yn ogystal, caiff buddion a dynnwyd yn ôl cyn 1 Ebrill 2015 o ganlyniad i weithrediad y cynlluniau eu hadfer o'r dyddiad hwnnw.

Yn ogystal, mae’r Gorchymyn yn diwygio Gorchymyn 2007 i ddileu’r gofyniad i enwebu partner a oedd yn cyd-fyw sy’n goroesi fel amod i fod yn gymwys ar gyfer pensiwn goroeswr, a hynny yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys yn achos Brewster[1].

Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud rhai gwelliannau technegol ynghylch Cynllun 1992, Gorchymyn 2007 a Gorchymyn Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) 2016.

Y weithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar y rhinweddau

Nodir pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Mae'r holl ddarpariaethau yn y Gorchymyn yn ôl-weithredol. Rhoddir y pŵer i roi effaith ôl-weithredol mewn perthynas â Chynllun 1992 gan adran 12 o Ddeddf Pensiwn 1972 fel y'i cymhwysir gan adran 16(3) o'r Ddeddf honno, ac mewn perthynas â Chynllun Digolledu 2007 a Chynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) gan adran 34 (3) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

15 Mai 2018



[1] [2017] UKSC 8.   Yn achos cais gan Denise Brewster am Adolygiad Barnwrol (Gogledd Iwerddon)